Monday 29 July 2013

Mae'r Bae yn blodeuo diolch i Sunflower & I

Rhwng stryd gefn brwnt a thafarn The Captain Scott a chyferbyn ac adeilad adfeiliedig mae yna arwydd ar ddrws sydd yn hysbysebu: ‘rhoddion, celf, galeri, blodau, te a choffi’. Dydy’r arwydd syml yma ddim yn rhoi syniad o’r safon sydd ochr arall y drws.


Yn bennaf, siop flodau yw Sunflower & I ac agorwyd ei drysau am y tro cyntaf 4 mis yn ôl. Lucasz a Sebastien sydd tu nol i’r cwmni ac mae Sebastian yn hynod o dalentog a chreadigol ac mae wedi llwyddo i greu sawl tusw o flodau arbennig o dda i fy nghariad. Rhai wythnosau yn ôl ‘roeddwn i’n sgwrsio gyda Sebastian a newidiodd y pwnc o flodau i fwyd a chlywais i am y te prynhawn.

Braidd yn aneglur yw’r union beth sydd ar gynnig. Mae yna frechdanau, cacennau, te ac opsiwn o champagne. Mae Sunflower & I yn y broses o gadarnhau’r union beth sydd ar ei bwydlen te prynhawn ac roedd y diffyg gwybodaeth yma yn ddigon o reswm i mi ddewis opsiwn o bring your own. A phan fo nhw’n cynnig BYO, maen nhw wir yn meddwl hynny, o frechdanau i de, i gacennau…hyd yn oed dewis cerddoriaeth.


Wedi dewis yr opsiwn yma a gwahodd fy mrodyr a’u ‘WAGs’ ymuno â mi, doedd dim chwant paratoi’r bwyd felly nes i droi at M&S am fwyd a Lidl am y prosecco. Ar ôl gadael y platiadau bwyd gyda Sunflower & I mi oedd edrychiad y bwyd wedi newid yn llwyr wedi iddyn nhw gael eu harddangos ar blatiau vintage. Er mae blog am fwyd yw hwn, dydw i ddim am dreulio gormod o amser yn trafod hwn yma – yn fyr, mi oedd y brechdanau bysedd a’r macarŵns yn sefyll allan fel y rhannau orau ac mi oedd y prosecco yn fargen am ychydig dros £7 y botel.



Prif gystadleuaeth Sunflower & I am de prynhawn yw Gwesty Dewi Sant sydd yn cynnig te prynhawn am £30 y person. Mwy na dwbl pris Sunflower & I. Tra bo gyda Gwesty Dewi Sant yn cynnig golygfeydd o’r môr (os ydych yn eistedd ar bwys y ffenest hynny yw) mae tu fewn i Sunflower & I wedi ei addurno mewn ffordd sydd yn wirioneddol wych ac unigryw iawn. Gallai ddim meddwl am le cystal i fwyta nac yfed yng Nghaerdydd.



Mae’r gwasanaeth yn berffaith a llwyddodd Lucasz i daro’r cydbwysedd yn berffaith rhwng sicrhau ein bod ni’n hapus gyda phopeth ond heb fod yn ffyslyd. Gyda’r WAGs yn siarad am ba mor pleserus oedd y prynhawn, daeth Sebastian at y bwrdd gyda rhosyn ar gyfer pob un, rhodd neis i gwpla a choronu’r prynhawn.

Lon, Elinor, Sian, Jenny a Lisa
Cofiwch bo rhaid archebu te prynhawn o flaen llaw @sunflowerandi

111 – 112 Stryd Bute
Bae Caerdydd
CF10 5AD

029 2048 4211

info@sunflowerandi.co.uk

No comments:

Post a Comment