Friday 20 March 2015

Wahaca

Oes unrhyw un wedi elwa cymaint yn dilyn rhaglen Masterchef na Thomasina Miers? Hi yw’r athrylith tu nôl i gadwyn lwyddiannus Wahaca. 



Mae 20 menter yn rhan o grŵp Wahaca erbyn heddiw. Dwi wedi bwyta yno sawl gwaith erbyn hyn a dwi’n dwli ar y lle. Dydw i ddim mor hoff â hynny o fwyd Mecsicanaidd. Braidd yn undonog yw bwyta burrito neu fajita mawr ond ma’ Wahaca yn cynnig opsiwn arall: ‘street food’. Mae’n fersiwn o dapas Mecsicanaidd sydd yn golygu bod modd blasu sawl peth mewn un ymweliad!

Mae’r margaritas (oddeutu £7) yn wych ac yn ddiod berffaith i’w hyfed gyda phowlen o guacamole a tortilla wrth benderfynu beth i ddewis. Mae pob un plât yn costio tua £4, ac mae pob un gwerth eu blasu ond dyma rhai o fy ffefrynnau:

- taco stecen, salsa a chaws. Mae’r caws yn wefreiddiol. Fel waffl caws sy’n gyfuniad o gaws mozzarella a chaws monteray jack. Y mozzarella yn rhoi gwead a’r monteray jack yn ychwanegu’r blas.


- taquito taten felys a chaws feta. Mae’n debyg i ffriter taten (ond un iachus) gyda’r caws feta yn hallt neis.



- tostada cyw iâr a chaws parmesan. Yn syml iawn , Caesar salad da ar greisionyn yw hwn. Maen wrthgyferbyniad i’r prydau eraill gan ei fod e’n ysgafn ac yn ffres.


Dwi’n hoff o’r fwydlen 'street food' yma oherwydd y gymhareb rhwng y carbohydrad a’r cynhwysion blasus. Gyda’r taco, tostada a’r taquitos, bach iawn o garbohydrad sydd. Y llenwad sydd yn serennu.

Mae'r bwyd ar y cyfan yn syml ond yn hynod o flasus. Ewch a mwynhewch!

Wahaca
51 – 53 Yr Aes
Canolfan Dewi Sant
Caerdydd
CF10 1GA
029 2167 0414
@wahaca

2 comments:

  1. Diolch am rhoi hwn lan Rhydian! Wedi bod yn. Meddwl mynd ond ddim am gal fy siomi achos yr hype (fel nes i gyda Jamie's Italian)
    Yn sicr mynd i fynd nawr!
    Gobeithio fod pob dim yn iawn
    Cofion gorau
    RhysMT

    ReplyDelete
    Replies
    1. Diolch Rhys. Ma fe bendant werth rhoi cynnig ar y lle. Gad i mi wybod pryd wyt ti lawr yn y bae nesa.

      Delete